skip to page contents

Gyrfaoedd | Cyrsiau | Cefnogaeth i Gwmnïau | Safonau | Cymwysterau | Ymchwil | Strategaeth | Ariannu | Cenhedloedd a Rhanbarthau | Am Skillset
Hysbysebu | Animeiddio | Computer Games | Adnoddau | Ffasiwn a Thecstilau | Ffilm | Cyfryngau Rhyngweithiol | Llun-Ddelweddau | Cyhoeddi | Radio | Teledu
Text size: A A A

Cenhedloedd a Rhanbarthau

Courses Search

Search the Creative Skillset/BFI Media Courses Directory of over 10,000 UK television, film, publishing, radio, animation, interactive media and photo imaging courses.


  • Select a sector

  • Where do you want to train or study?
Animeiddiad 'Moon Pirates'

Bagloriaeth Cymru - Prif Ddysgu Creadigol a'r Cyfryngau

Pam cafodd y cymwysterau Prif Ddysgu eu datblygu?

Mae Addysg Uwch (AU) a chyflogwyr yn teimlo nad yw'r holl sgiliau sy'n angenrheidiol er mwyn llwyddo mewn AU ac yn y gweithle yn cael eu datblygu yn y gyfundrefn addysg bresennol.

Mae astudio Prif Ddysgu o fewn Bagloriaeth Cymru yn ffordd o lewni'r bwlch drwy gyfuno elfennau gorau cymwysterdau academaidd a galwadigaethol. Mae hyn yn creu ffordd newydd o ddysgu a fydd yn ymgysylltu llawer o fyfyrwyr yn well wrth iddynt ddysgu yng nghyd-destun y maes sydd o ddiddordeb iddynt.

Sot cawsant eu datblygu?

Unlike A levels and GCSEs the content of the Principal Learning qualification has been developed in conjunction with industry and HE. We asked companies in the creative and media industries what skills and knowledge were important to them and Principal Learning will deliver these

Yn wahanol i lefel A a TGAU, mae cynnwys y cymhwyster Prif Ddysgu wedi ei datblygu mewn cyd-weithrediad gyda'r diwydiant ac Addysg Uwch. Aethom ati i ddarganfod pa sgiliau a gwybodaeth oedd yn bwysig i gwmniau o fewn y diwydiannau creadigol a nôd y Prif Ddysgu yw i ddarparu'r rhain.

Nod Prif Ddysgu Creadigol a'r Cyfryngau

Y nod yw datblygu pobl sy'n meddwl yn greadigol, yn hytrach nag arbenigwyr mewn maes penodol.

Maen ffordd newydd o ddysgu yng ngyd-destun y diwydiannau creadigol a'r cyfryngau ac yn dod a dysgwyr yn nes at realiti'r gweithle.

Bydd yn galluogi dysgwyr i ddefnyddio eu gwybodaeth a'u sgiliau'n effeithiol wrth iddynt symud ymlaen i addysg bellach ac addysg uwch a'r byd gwaith yn y dyfodol.

Calyniad a'r sgiliau a gaiff eu datblygu

Mae'r rhan fwyaf o'r diwydiannau creadigol a'r cyfryngau yn recriwtio o AU, felly mae Prif Ddysgu wedi'i gynllunio i gefnogi'r broses o symud ymlaen i AU. Fodd bynnag, efallai y bydd rhai myfyrwyr yn dewis parhau i ddysgu gyda chymwhwyster galwadigaethol mewn maes penodol.

Yn ogystal a'r sgiliau creadigol oenodol a gaiff eu datblygu gyda'r cymhwyster Prif Ddysgu Creadigol a'r Cyfryngau, bydd myfyrwyr hefyd yn datblygu sgiliaiu megis cyfathrebu, gwaith tîm a dadansoddi beirniadol.

Sut mae Prif Ddysgu yn ffurfio rhan o Fagloriaeth Cymru?

Mae cymwhyster Bagloriaeth Cymru (CBC) yn gymhwyster sydd wedi'i hen sefydlu ac yn uchel ei barch ac mae ei strwythyr eisioes n gymwys i gynnwys y cymwysterau Prif Ddysgu a phrosiect cymwhysol newydd fel opsiynau pellach.

Ffordd newydd o ddysgu! NID ydynt yn safon newydd o ddysgu.

  • Cadarn - Mae'n heriol yn academaidd er mwyn dangos gallu
  • Hyblyg- mae'n creu profiadau dysgu unigol gyda'r hyblygrwydd i ychwanegu cymwysterau eraill.
  • Cysylltiedig a gwaith - Mae'n cael ei addysgu yng nhgyd-destun diwydiant sy'n datblygu sgiliau gwerthfawr a throsglwyddadwy.

Prif ddysgu Creadigol a'r Cyfryngau

Prif Ddysgu

Mae'r cynnwys hwn yn bendodl i'r maes Creadigol a'r Cyfryngau a chaoff ei addysgu drwy'r bedair thema.

Prosiect

Mae'n rhaid i ddysgwyr sy'n astudio'r cymhwyster Prif Ddysgu hefyd astudio cymhwyster y Prosiect neu'r Prosiect Estynedig (ar lefel 3). Mae;n cynnig modd i unigolion gynllunio a threfnu eu ffordd hwy o ddysgu gan ddangos y sgilisu sy'n ofynnol mewn AU. Yn ddelfrydol, bydd y prosiect yn gysylltiedig a'r diwydiannau creadigol a'r cyfryngau.

Dyma'r pedair thema yn y cymhwyster Prif Ddysgu 

  • Creadigrwydd mewn Cyd-destun. Datblygu ymwybyddiaeth o sut y mae ffactorau alanol yn dylanwadu ar greadigrwydd.
  • Egwyddorion, Prosesau ac Ymarfer. Datblygu'r technegau a'r sgiliau ymarferol sydd wrth wraidd y broses greadigol a'r wybodaeth ddamcaniaethol sy'n sail iddynt.
  • Meddwl a Gweithio'n Greadigol. Darparu amrywiaeth o ddulliau ac amgylchedd sy'n cryfau'r gallu i ddatrys problemau'n greadigol a sgiliau gwerthuso.
  • Busnesau Creadigol a Menter. Datblygu gwybodaeth dysgwyr am gyd-destun busnes y diwydiannau creadigol a'r cyfryngau a rhoi'r sgiliau angenrheidiol iddynt er mwyn llwyddo.

Sut mae'r cymhwyster Prif Ddysgu yn cael ei addysgu?

Mae'r cymhwyster Prif Ddysgu yn gyfuniad o ddysgu academaidd ac ymarferol a addysgir mewn system seiliedig ar brosiect gyda chyflogwyr y diwydiant.

Academaidd

Mae athrawon a chyflogwyr y diwydiant yn ymwneud ag addysgu'r broses greadigol.

Ymarferol

Mae cyflogwyr yn rhoi briffiau go iawn i ddysgwyr weithio arnynt, gan sicrhau y rhoddir blas ar ddysgu academiadd mewn cyd-destun sy'n gysylltiedig a gwaith. Mae hyn hefyd yn datblygu sgiliau gwaith tim a chyfathrebu werth i ddysgwyr weithio gyda'i gilydd ar friff.

Pwy ddylai astudio'r cymhwyster Prif Ddysgu Creadigol a'r Cyfryngau?

Unrhyw un a chanddynt ddidordeb mewn bod yn greadigol!

Lefel  1 /2 Myfyrwyr sydd am gael ffordd o ddysgu sy'n fwy cysylltiedig a gwaith ond nid ydynt eisiau arbenigo mewn maes penodol.

Lefel 3 Myfyrwyr sydd am ddatblygu eu sgiliau meddwl yn greadigol. Unrhywun sydd eisiau symud i AU a dilyn cwrs sy'n gwerthfawrogi meddwl yn greadigol ac yn feirniadol. Gallai hyn amrywio o Ddylunio Graffig i Farchnata.

Pwy NA ddylai studio'r cymwhyster Prif Ddysgu Creadigol a'r Cyfryngau?

Unrhywun sy'n credi ei fod yn hawdd!

Gan gymryd elfennau a'r cysyniadau gorau o gymwysterdau academaidd a galwadigaethol, mae'r cymhwyster Prif Ddysgu Creadigol a'r Cyfryngau yn gymhwyster trylwyr a heriol. Caidd ei wneud yn berthnasol i gyd-destun yr hyn sy'n digwydd ym myd go iawn diwydiannau creadigol a'r cyfryngau. Bydd yn ymsetyn a herio myfyrwyr ar bob lefel.

Os ydych am symud i faes penodol o'r diwydiant creadigol a'r cyfryngau, mae'n bosibl y byddai astuio cymwyster galwadigaethol penodol yn fwy addas i chi, os yw'r rhain ar gael.

Neu, os ydych yn gwybod pa gwrs rydych am ei astudio yn y Brifysgol ac mae'n gofyn am ofynion mynediad pendodol dylech holi i weld beth ydynt.

Am fwy o wybodaeth ewch at Gwefan Bagloriaeth Cymru

Hafan |  Sector |  Cenhedloedd a Rhanbarthau |  Amdanom Ni |  Chwilio
Hawlfraint 2001-13 Creative Skillset |  Polisi Defnydd Data |  Am y Safle Hwn |  Deddf Hygyrchedd

Creative Skillset, Focus Point, 21 Caledonian Road, London, N1 9GB. Tel: 020 7713 9800