
Gwnewch gais nawr: Hyfforddiant a Sgiliau
A ydych yn gweithio yn y Diwydiannau Creadigol?
Yn byw neu'n gweithio yng Ngorllewin Cymru a'r Cymoedd, yn cynnwys Gogledd Orllewin Cymru?
Mae Skillset Cymru yn ariannu gwerth £250,000 o hyfforddiant i weithwyr Creadigol proffesiynol yng Ngorllewin Cymru a'r Cymoedd, yn cynnwys Gogledd Orllewin Cymru, ac fe allech chi elwa.
Bydd yr holl hyfforddiant yn cael ei gynnal fel rhan o Raglen Sgiliau ar gyfer yr Econmi Ddigidol £4.5m Skillset Cymru, a gefnogir gan £2.7m o Gronfa Gymdeithasol Ewrop, gyda gweddill yr arian yn cael ei ddarparu gan y darlledwr Cymraeg S4C, y gymdeithas fasnach i gynhyrchwyr ffilm a theledu annibynnol yng Nghymru, Teledwyr Annibynnol Cymru (TAC) a Skillset Cymru.
At ddibenion y rhaglen hon, dim ond unigolion sy'n byw neu'n gweithio yng Ngorllewin Cymru a'r Cymoedd, yn cynnwys Gogledd Orllewin Cymru, sy'n gymwys ar gyfer yr hyfforddiant. Sut i ddarganfod a ydych yn gymwys. Am wybodaeth bellach am eich cymhwysedd ar gyfer cwrs arbennig cysylltwch â'r darparwr hyfforddiant perthnasol.
Mae'r cyrsiau a gefnogwyd yn y gorffennol yn cynnwys Rhaglen Talent Busnes Creadigol Kirkbright, cynllun hyfforddi arweinwyr Progress The White Room a Chatalydd Cydgyfeirio Crossover Labs/Sheffield Doc Fest.
Cewch wybod isod pa hyfforddiant sydd ar gael. Bydd cyfleoedd hyfforddiant pellach ar gael o ddechrau'r Gwanwyn 2012 - er mwyn cael eich hysbysu pan fydd y rhain ar gael, cliciwch yma i gofrestru ar gyfer ein newyddlen.
Rhaglen Preditor: Hyfforddiant Saethu a Golygu
Mae'r Rhaglen Preditor yn gwrs hyfforddiant 5 diwrnod dwys i roi i gynhyrchwyr, cyfarwyddwyr, cynhyrchwyr cynorthwyol ac eraill y sgiliau ymarferol i saethu a golygu eu fideo o safon darlledu eu hunain.
Read MoreFinal Cut Pro 7: Golygu ar gyfer rhai nad ydynt yn olygyddion
Hyfforddiant a gyflwynir gan Cyfle
Read More
