skip to page contents

Gyrfaoedd | Cyrsiau | Cefnogaeth i Gwmnïau | Safonau | Cymwysterau | Ymchwil | Strategaeth | Ariannu | Cenhedloedd a Rhanbarthau | Am Skillset
Hysbysebu | Animeiddio | Computer Games | Adnoddau | Ffasiwn a Thecstilau | Ffilm | Cyfryngau Rhyngweithiol | Llun-Ddelweddau | Cyhoeddi | Radio | Teledu
Text size: A A A

Gyrfaoedd

Courses Search

Search the Creative Skillset/BFI Media Courses Directory of over 10,000 UK television, film, publishing, radio, animation, interactive media and photo imaging courses.


  • Select a sector

  • Where do you want to train or study?
Byddwch yn realistig pan yn trafod eich cryfderau a'ch uchelgeision

Sut i ddod yn Rhedwr

Sut i gael eich pig i mewn
Mae llawer o Redwyr yn dod o hyd i'w swydd rhedwr cyntaf ‘go iawn' o ganlyniad uniongyrchol i leoliad profiad gwaith llwyddiannus. Mae'r llwybyr hyn yn arbed amser ac arian i gyflogwyr, ac mae hefyd yn cael gwared ar gyfran helaeth o'r risg o recriwtio person ‘anhysbys'.

Mae rhai pobl yn llwyddo i drefnu lleoliadau mewn sawl lle gwahanol, gan ennill profiad gwirioneddol o wneud rhaglenni neu ffilmiau drwy fod yn bobl sy'n ddefnyddiol iawn eu cael o gwmpas.

Daw eraill o hyd i waith drwy argymhelliad personol, neu drwy gadw eu clustiau ar agor a gwneud cais gyda CV a llythyr cyflwyniadol.

Sut i sefyll allan
Gall cystadleuaeth fod yn ffyrnig, ond bydd CV trefnus yn agor drysau ac yn dangos eich bod yn deall y gwaith a'ch bod yn frwdfrydif am y diwydiant. Mae cyflogwyr yn hoffi gweld pobl drefnus â ffocws, sydd â synnwyr realistig o'u cryfderau a'u huchelgeisiau. Mewn cyfweliad, dylai ymgeiswyr da ddangos eu bod yn gwybod beth a ddisgwylir ganddynt fel Rhedwr. Felly gwnewch eich gwaith cartref!

Unwaith y dewch o hyd i swydd fel Rhedwr, dylech wneud pob ymdrech i wneud y swydd yn dda dros ben. Mae'r rhan fwyaf o gyflogwyr yn hapus iawn i helpu Rhedwyr i ddysgu sgiliau penodol, ond rhaid i Redwyr wybod pryd a sut i ofyn am hyn. Mae'n rhaid i chi gofio mai eich swydd yw eich blaenoriaeth gyntaf.

Mae ble fyddwch yn dechrau yn gallu dylanwadu'n fawr ar ble y byddwch yn cyrraedd, felly mae'n bwysig gwneud eich ymchwil a sicrhau eich bod yn dechrau mewn swydd sy'n arwain at ddatblygiad gyrfa go iawn.

Hafan |  Sector |  Cenhedloedd a Rhanbarthau |  Amdanom Ni |  Chwilio
Hawlfraint 2001-13 Creative Skillset |  Polisi Defnydd Data |  Am y Safle Hwn |  Deddf Hygyrchedd

Creative Skillset, Focus Point, 21 Caledonian Road, London, N1 9GB. Tel: 020 7713 9800