
I fyny neu ar draws
Mae'n siwr eich bod weithiau'n teimlo fel petaech wedi cyrraedd nenfwd gwydr yn eich gyrfa, bod y galw am eich sgìl yn lleihau, neu eich bod eisiau newid trywydd neu ffordd o fyw. Pan fydd hyn yn digwydd, a does dim ffordd amlwg ymlaen - peidiwch â digalonni. Mae ffyrdd o ddatrys hyn.
Er enghraifft, efallai y dyliech ystyried:
- Trosglwyddo eich sgiliau i ddiwydiant neu sector arall
- Gwella eich sgiliau marchnata a rhwydweithio a chymryd mantais o gyfleoedd newydd, e.e. mynd i fwy o ddigwyddiadau'r diwydiant megis Broadcast Live
- Chwilio am hyfforddiant arbenigol mewn sgil newydd neu dechnoleg newydd
- Cymryd cam i'r ochr er mwyn ehangu eich profiad a gwneud eich hun yn fwy deniadol i gyflogwyr, e.e. gweithio ar ffilm fer er mwyn cynyddu o dynnwr ffocws i DOP
- Symud o gyflogaeth i waith llawrydd - neu fel arall.
- Datblygu eich portffolio creadigol eich hun
Peidiwch â diystyru unrhyw bosibilrwydd. Rhaid i chi gael ffydd yn eich gallu yn fwy nag erioed, a chofio fod cadw eich hun mewn gwaith yn rhan fawr o'ch swydd.
Pwysigrwydd datblygiad proffesiynol parhaus (DPP)
Mae'r cyfryngau creadigol yn newid o hyd - dyna un o'r prif resymau pam eu bod yn ddiwydiannau mor ddiddorol i weithio ynddynt. Ni fedrwch fforddio dybio y bydd gennych swydd am oes.
Read MorePa gyngor byddech yn ei roi i rywun sydd am ehangu'r ystod o waith maen nhw'n ei dderbyn?
Pa gyngor byddech yn ei roi i rywun sydd am ehangu'r ystod o waith maen nhw'n ei dderbyn?
Read MoreCael hyd i'r hyfforddiant iawn
Beth bynnag eich cymhelliant, mae'n bwysig ymchwilio gwahanol gyrsiau er mwyn sicrhau bod yr un yr ydych yn ei ddewis yn cwrdd â'ch anghenion.
Read MoreBod yn llawrydd
Rydych chi'n fos arnoch chi eich hun a'ch busnes. Chi sy'n penderfynu pryd i weithio a phryd i gymryd gwyliau - a dim ond chi all reoli eich datblygiad proffesiynol eich hun.
Read More