
Ceisiadau am swyddi
Gan ei bod mor anodd cael eich pig i mewn i'r diwydiannau hyn, mae pobl yn aml yn derbyn y swydd gyntaf sy'n codi.
Mae'n werth bod yn ddewr a pharhau i drio am swydd fydd yn rhoi ystod o sgiliau newydd a chysylltiadau i chi er mwyn rhoi hwb go iawn i'ch gyrfa. Gydag ychydig o feddwl a chynllunio, gallwch gynyddu eich siawns o gael gwaith newydd.
Bydd cyflogwyr posib bron bob amser yn gofyn am CV a llythyr cyflwyniadol i ddechrau, hyd yn oed os oes yna ffurflen gais ffurfiol. Felly peidiwch ag aros tan eich bod yn wynebu dyddiad cau - paratowch mewn da bryd.
CV
Eich CV yw eich llyfryn gwerthu/marchnata. Mae angen iddo ddangos mewn ffordd glir, ddarllenadwy, y cryfderau, sgiliau a phrofiad yr ydych yn eu cynnig i gyflogwr/cleient posib.
Efallai bod dipyn o amser ers i chi edrych ar eich CV ddiwethaf, felly mae'n werth treulio amser arno. Gwnewch yn siwr ei fod yn cynnwys yr holl sgiliau a phrofiad yr ydych wedi'u caffael yn ddiweddar. Llawrlwythwch y ddogfen isod am fwy o wybodaeth ar ysgrifennu'r CV perffaith:
Llythyrau cyflwyniadol
Mae llythyrau cyflwyniadol yn bwysig er mwyn personoli eich cais. Defnyddiwch hwy i ddangos eich bod yn deall yr hyn y mae'r cyflogwr yn chwilio amdano. Mae angen profi iddynt fod gennych nid yn unig y sgiliau, ond yr agwedd a'r ymagwedd iawn, a brwdfrydedd gwirioneddol ynghylch y swydd.
Ffurflenni cais
Os oes rhaid i chi lenwi ffurflen gais ffurfiol, darllenwch drwyddi yn gyntaf. Cymerwch eich amser i feddwl am yr hyn y maent yn ei ofyn mewn gwirionedd. Mae peth o'r wybodaeth yn ffeithiol yn unig (e.e. enw, cyfeiriad, cymwysterau); fodd bynnag, mae cwestiynau eraill wedi'u llunio er mwyn cael gwybod am eich cymeriad, eich agwedd a'ch diddordebau.
Meddyliwch yn ofalus cyn cwblhau eich atebion i'r mathau hyn o gwestiwn, yn yr un modd ag y byddech wrth ysgrifennu llythyr cyflwyniadol. Drafftiwch eich atebion ymlaen llaw a sicrhewch eu bod yn cyfeirio at y sgiliau gofynnol yn y swydd ddisgrifiad.
Felly cofiwch:
- Gyfateb eich llythyr cais i'r hyn yr ydych yn ei wybod am y cwmni a sut y gallai eich sgiliau a'ch nodweddion eu helpu.
- Os yw eich cais yn aflwyddiannus, peidiwch a'i gymryd yn bersonol. Rhowch gynnig (yn gwrtais) ar geisio darganfod pam. Gofynnwch am beth yr oeddent yn chwilio a sut y gellid gwella eich cyflwyniad yn y dyfodol. Mae'r math hwn o adborth yn hanfodol.
- Parhewch i adolygu eich strategaeth a diweddaru deunyddiau yn unol â'r adborth a gewch.
- Os yw hyn yn dangos bwlch yn eich profiad, sgiliau neu gymwysterau, byddwch yn barod i ystyried rhyw ffurf ar ailhyfforddi.
- Sicrhewch fod gennych gynllun wrth gefn.
Darllenwch fwy yn ![]()
Marketing Yourself
Peidiwch â gwneud hyn i gyd ar eich pen eich hun. Defnyddiwch eich rhwydwaith personol i gael adborth a chyngor ar eich cynlluniau. A chofiwch eich bod yn dilyn i fyny!
If your computer has the relevant software, click the document icons or document titles to view the relevant document. Right-click (PC) or hold your mouse-button down (Mac) on the document icon/title, you'll be given the option to save the file to disk. If you don't have the necessary software to view the documents, take the above links to download free reader programs.