skip to page contents

Gyrfaoedd | Cyrsiau | Cefnogaeth i Gwmnïau | Safonau | Cymwysterau | Ymchwil | Strategaeth | Ariannu | Cenhedloedd a Rhanbarthau | Am Skillset
Hysbysebu | Animeiddio | Computer Games | Adnoddau | Ffasiwn a Thecstilau | Ffilm | Cyfryngau Rhyngweithiol | Llun-Ddelweddau | Cyhoeddi | Radio | Teledu
Text size: A A A

Gyrfaoedd

Courses Search

Search the Creative Skillset/BFI Media Courses Directory of over 10,000 UK television, film, publishing, radio, animation, interactive media and photo imaging courses.


  • Select a sector

  • Where do you want to train or study?
www.skillset.org/courses

Chwiliwch am y cwrs cyfryngau gorau i chi

Bydd bas data newydd, gwell Skillset yn eich cynorthwyo i ddod o hyd i'r cyrsiau byr a chyrsiau gradd gorau yn y maes cyfryngau creadigol, gan roi'r sgiliau angenrheidiol i chi dorri i mewn neu symud ymlaen yn y Diwydiannau Cyfryngau Creadigol.

Neu, os ydych yn edrych am ddosbarth nos i ddatblygu'ch diddordeb mewn ffotograffiaeth, mae dewis eang o gyrsiau i chi hefyd! Mae miloedd o gyrsiau cyfryngau ar y bas data.

Ond rhai cannoedd yn unig o gyrsiau sydd wedi'u clustnodi gan y diwydiant a Skillset fel y rhai mwyaf addas i ddatblygu'ch gyrfa yn y cyfryngau, neu'ch paratoi i gael dechrau da yn y diwydiant.

Rydym wedi trefnu'r cyrsiau gyda chymeradwyaeth y diwydiant yn dri categori:

  • *Y Tic - Dewis Doeth: cyrsiau gradd a sefydliadau mwyaf addas i'ch paratoi am swydd yn y cyfryngau creadigol, gyda chymeradwyaeth y diwydiant, ac wedi derbyn Tic Skillset
  • Adeiladu eich MA: cyrsiau cyfryngau byr, hyblyg ar gyfer pobl broffesiynol yn y diwydiant. Gellir eu huno er mwyn creu cymhwyster ôl-raddedig
  • Cyrsiau dan nawdd Skillset: cyrsiau sy'n darparu'r sgiliau sydd eu hangen ar y diwydiant ar hyn o bryd, dan nawdd Skillset fel bod modd i chi eu fforddio.

Mae'r canlyniadau chwilio ar gyfer y cyrsiau a gymeradwywyd gan y diwydiant wedi'u hamlygu, gyda chysylltiadau ychwanegol yn gosod y wybodaeth angenrheidiol ar flaen eich bysedd, gan gynnwys proffil swyddi cyfryngau, astudiaethau achos perthnasol a chysylltiadau at nawdd sydd ar gael.

Mae ein bas data cyrsiau newydd hefyd yn cynnig ystod o nodweddion newydd eraill:

  • Mwy o ffyrdd i chwilio, gan gynnwys drwy Academi Skillset, y dyddiad yr ydych am astudio, a phori drwy ystod o wahanol gategorïau
  • Nodi a rhannu tudalennau a thanysgrifio i'n newyddion
  • Tanysgrifio i newyddion cwrs Adeiladu eich MA a'r cynigion diweddaraf
  • Cofrestru proffil er mwyn eich galluogi i arbed cyrsiau ar restr a thanysgrifio at e-gylchlythyrau Skillset

Gallwch hefyd newid y cefndir ar y wefan at eich dant personol!

Chwiliwch nawr am gwrs addas i chi.

Hafan |  Sector |  Cenhedloedd a Rhanbarthau |  Amdanom Ni |  Chwilio
Hawlfraint 2001-13 Creative Skillset |  Polisi Defnydd Data |  Am y Safle Hwn |  Deddf Hygyrchedd

Creative Skillset, Focus Point, 21 Caledonian Road, London, N1 9GB. Tel: 020 7713 9800