skip to page contents

Gyrfaoedd | Cyrsiau | Cefnogaeth i Gwmnïau | Safonau | Cymwysterau | Ymchwil | Strategaeth | Ariannu | Cenhedloedd a Rhanbarthau | Am Skillset
Hysbysebu | Animeiddio | Computer Games | Adnoddau | Ffasiwn a Thecstilau | Ffilm | Cyfryngau Rhyngweithiol | Llun-Ddelweddau | Cyhoeddi | Radio | Teledu
Text size: A A A

Gyrfaoedd

Courses Search

Search the Creative Skillset/BFI Media Courses Directory of over 10,000 UK television, film, publishing, radio, animation, interactive media and photo imaging courses.


  • Select a sector

  • Where do you want to train or study?
Gallech synnu eich hun gyda faint o sgiliau trosglwyddadwy sydd gennych yn barod!

Trosglwyddo eich sgiliau

Weithiau, gall fod yn anodd rhestru pa sgiliau sydd gennych. Os ydych wedi gadael yr ysgol, efallai nad ydych yn hollol siwr o'ch cryfderau. Yn yr un modd, os ydych yn gweithio ar hyn o bryd mewn diwydiant arall, efallai nad ydych yn siwr a oes modd i chi drosglwyddo eich sgiliau presennol.

Un ffordd dda o ganolbwyntio eich meddwl yw i edrych yn ôl ar y swyddi eraill yr ydych wedi'u gwneud yn y gorffennol, neu pa brosiectau yr oeddech wedi ymwneud â hwy fel myfyriwr, ac atgoffa eich hun am yr hyn yr oeddech wedi'i fwynhau a'r hyn oedd yn anodd neu'n llafurus.

Mae'n debygol y bydd y profiadau yr ydych wedi'u hennill hyd yn hyn yn dweud llawer wrthych am y cyfeiriad y dylech ei gymryd. Os ydych yn dal i deimlo'n ansicr, gofynnwch i ffrind neu berthynas yr ydych yn ymddiried ynddynt beth maen nhw'n meddwl yw eich cryfderau. Defnyddiwch y ddogfen isod i asesu pa sgiliau sydd gennych.

Mae'r math yma o restr wirio yn helpu i roi hwb i'ch hyder, a hefyd yn eich helpu i gyflwyno'ch hun yn y ffordd orau bosib i gyflogwyr, drwy ganolbwyntio yn agosach ar realiti bob dydd yr hyn y bydd yn rhaid i chi ei wneud mewn swydd benodol. Er enghraifft, os ydych yn gweithio'n dda o dan bwysau neu yn drefnus iawn, mae hynny'n wych; ond os nad ydych, byddai'n well i chi beidio ag ymgymryd â gyrfa lle yr ystyrir y rhain yn sgiliau hanfodol.

Wrth restru eich cryfderau, profiadau, cymwysterau, hoffterau a chas bethau, cewch eich synnu gan gymaint o sgiliau trosglwyddadwy sydd gennych yn barod!

Defnyddiwch ein dogfen Adobe Acrobat DocumentWhat skills do you have? i ddechrau'r broses.

Hafan |  Sector |  Cenhedloedd a Rhanbarthau |  Amdanom Ni |  Chwilio
Hawlfraint 2001-13 Creative Skillset |  Polisi Defnydd Data |  Am y Safle Hwn |  Deddf Hygyrchedd

Creative Skillset, Focus Point, 21 Caledonian Road, London, N1 9GB. Tel: 020 7713 9800