
Deall GFL
Mae gwybodaeth y farchnad lafur (GFL) yn cymharu'r galw a chyflenwad sgiliau o fewn economi, sector diwydiant neu ardal, i benderfynu ble mae'r prinderau sgiliau a sut i ddelio â hwy.
Defnyddir y math hwn o ymchwil gan lywodraethau, cyflogwyr ac asiantaethau eraill i ddiweddaru eu cynlluniau gweithredu er mwyn llenwi'r bylchau mewn sgiliau.
Mae cyflogwyr ar draws y rhan fwyaf o sectorau galwedigaethol yn wynebu prinderau a bylchau mewn sgiliau. Anelir dull Skillset o ymdrin â gwybodaeth, cyngor ac arweiniad (IAG) at sicrhau y gall pawb dderbyn cyngor gyrfaoedd o ansawdd da, er mwyn datblygu eu sgiliau a gwneud penderfyniadau effeithiol o ran dewis swyddi a gyrfa.
Gwelir gwybodaeth y farchnad lafur (GFL) Skillset ar wefan y National Guidance Research Forum (NGRF) a ddatblygwyd gan yr Institute for Employment Research (IER), rhan o Brifysgol Warwick.
Arddangosir GFL ar gyfer pob diwydiant yn y DU ar yr NGRF. Cyflwynir y wybodaeth mewn fformat cyson sy'n hawdd ei ddefnyddio. Mae'n cynnwys adran adnoddau o'r enw LMI Learning, sy'n cynnwys 6 modiwl y gallwch weithio drwyddynt yn eich amser eich hun. Gweler isod am fanylion.