skip to page contents

Gyrfaoedd | Cyrsiau | Cefnogaeth i Gwmnïau | Safonau | Cymwysterau | Ymchwil | Strategaeth | Ariannu | Cenhedloedd a Rhanbarthau | Am Skillset
Hysbysebu | Animeiddio | Computer Games | Adnoddau | Ffasiwn a Thecstilau | Ffilm | Cyfryngau Rhyngweithiol | Llun-Ddelweddau | Cyhoeddi | Radio | Teledu
Text size: A A A

Gyrfaoedd

Courses Search

Search the Creative Skillset/BFI Media Courses Directory of over 10,000 UK television, film, publishing, radio, animation, interactive media and photo imaging courses.


  • Select a sector

  • Where do you want to train or study?
Mae ein gwasanaethau gyrfaol yn adlewyrchu realiti'r diwydiannau clyweledol

Beth sy'n gwneud y gwahaniaeth?

Mae llawer o sefydliadau yn darparu cyngor gyrfaol ar draws y DU. Nid yw'r wybodaeth a'r cyngor y mae'r asiantaethau hynny yn eu darparu bob amser yn cyfleu realiti'r diwydiannau y maent yn dymuno eu gwasanaethu.

Ac yn aml, nid oes gan y sefydliadau hyn yr adnoddau i roi hyfforddiant manwl i Gynghorwyr Gyrfaoedd ar wahanol sectorau'r diwydiant.

Mae Cynghorau Sgiliau Sector (CSS) mewn sefyllfa unigryw i gyflwyno gwybodaeth, cyngor ac arweiniad gyrfaol sy'n adlewyrchu realiti y sectorau y maent yn eu cynrychioli.

Mae gwasanaethau gyrfaoedd Skillset wedi'u gwreiddio yng nghanfyddiadau ein rhaglen ymchwil gynhwysfawr am ein diwydiannau. Trwy gynnig cyngor sy'n seiliedig ar ffeithiau caled ac arfer diweddaraf y diwydiant, rydym yn anelu at helpu ein diwydiannau i leihau bylchau a diffygion mewn sgiliau, a chynyddu cyfleoedd ar gyfer y gweithlu.

Mae ein cyngor gyrfaol yn gynnyrch o'r ymgynghori parhaus â phrif ffigurau'r diwydiant, ein dadansoddiad o dueddiadau'r dyfodol a gwybodaeth y farchnaf lafur (GFL).

Mae gwasanaethau gyrfaoedd Skillset yn darparu datrysiadau personol i weithwyr proffesiynol y diwydiant neu i newydd-ddyfodiaid. Mae ein Cynghorwyr Gyrfaoedd yn weithwyr proffesiynol yn y diwydiant, sy'n gweithio mewn un neu fwy o'r sectorau clyweledol. Maent wedi eu hyfforddi'n broffesiynol i ddarparu cyngor ac arweiniad gyrfaoedd proffesiynol. Maent yn gwella'r gwasanaeth y maent yn ei ddarparu drwy ddefnyddio eu profiadau personol fel gweithwyr llawrydd yn y diwydiant.

Dyna sut mae ein cynghorwyr gyrfaoedd yn gwneud gwahaniaeth go iawn.

Hafan |  Sector |  Cenhedloedd a Rhanbarthau |  Amdanom Ni |  Chwilio
Hawlfraint 2001-13 Creative Skillset |  Polisi Defnydd Data |  Am y Safle Hwn |  Deddf Hygyrchedd

Creative Skillset, Focus Point, 21 Caledonian Road, London, N1 9GB. Tel: 020 7713 9800